Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 12 Rhagfyr 2018

Amser y cyfarfod: 13.30
 


178(v6)  

------

<AI1>

Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8.

 

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

(5 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y contract sector cyhoeddus sydd wedi'i ddyfarnu i Interserve ar hyn o bryd i ymgymryd â gwaith adeiladu yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful?

</AI3>

<AI4>

3       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI4>

<AI5>

4       Dadl: Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol

(60 munud)

NDM6896 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol ddydd Llun 10 Rhagfyr 2018.

2. Yn nodi ei bod yn 70 mlynedd ers mabwysiadu’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.

Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y twf mewn mudiadau gwleidyddol sy'n gwrthod egwyddorion y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, a galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei gwaith i fynd i'r afael ag eithafiaeth yn cynnwys mesurau rhagweithiol i atal eithafiaeth asgell dde. 

 

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod yr holl hawliau a nodir yn natganiad y Cenhedloedd Unedig o hawliau dynol yn un mor bwysig â'i gilydd.

Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi'u cymryd o ran rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, amddiffyn rhyddid crefydd neu gred, rhoi terfyn ar anghydraddoldeb a gwahaniaethu, a hyrwyddo democratiaeth.

 

</AI5>

<AI6>

5       Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

(15 munud)

NDM6899 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru).

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3

</AI6>

<AI7>

Cyfnod pleidleisio (Busnes y Llywodraeth)

 

</AI7>

<AI8>

6       Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Atal Gwastraff ac Ailgylchu

(30 munud)

NDM6893 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Bil ar atal ac ailgylchu gwastraff.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) atal gwastraff drwy osod gofynion ailgylchu ar gynhyrchwyr bwyd a manwerthwyr o ran deunydd pacio a gwastraff deunydd pacio; a

b) cyflwyno cyfrifoldebau estynedig ar y cynhyrchydd i sicrhau bod costau ailgylchu a rheoli gwastraff yn cael eu rhannu yn deg, gyda chynhyrchwyr yn cyfrannu at gost ariannol triniaeth ar ddiwedd bywyd eu cynnyrch.

</AI8>

<AI9>

7       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cyflog Byw

(60 munud)

NDM6860 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn nodi yr adroddiad gan Ysgol Fusnes Caerdydd, 'The Living Wage Employer Experience'.

2. Yn croesawu'r camau a gymerwyd gan 174 o gyflogwyr ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru i dalu cyflog byw go iawn i'w cyflogeion.

3. yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) nodi'r mesurau i gefnogi mwy o gyflogwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i fabwysiadu'r cyflog byw go iawn a dod yn gyflogwyr cyflog byw go iawn achrededig; a

b) ystyried cryfhau y Cod ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi mewn perthynas â'r cyflog byw go iawn.

The Living Wage Employer Experience (Saesneg yn unig)

Cod Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

Cefnogwyr
David Rees (Aberafan)

Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Hefin David (Caerffilli)
Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Mick Antoniw (Pontypridd)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Rhianon Passmore (Islwyn)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Vikki Howells (Cwm Cynon)

</AI9>

<AI10>

8       Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Rhwystrau Carthffosydd

(60 munud)

NDM6898 Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad Water UK ar ei astudiaeth ynghylch hancesi gwlyb yn blocio carthffosydd.

2. Yn gresynu at y ffaith y ceir tua 2,000 o rwystrau mewn carthffosydd bob mis ledled Cymru ac yr achosir llawer ohonynt gan bobl yn fflysio eitemau traul fel ffyn cotwm a hancesi gwlyb i lawr y toiled.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gwaith ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig y tu hwnt i fwyd a diod i gynnwys eitemau traul fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddeddfu ar gyfer profi cynhyrchion fel hancesi gwlyb a ffyn cotwm ar sail rheoleiddiol; ac os bydd cynhyrchion o'r fath yn methu prawf newydd y diwydiant dŵr i weld a ellir eu fflysio, rhaid i gynhyrchwyr becynnu'r cynhyrchion hynny gyda logo clir, trawiadol ac amlwg sy'n nodi na ellir eu fflysio.

Water UK - Wipes in Sewer Blockage Study (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru gyda chwmnïau dŵr er mwyn pwyso a mesur opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem lle y mae defnyddiau traul yn achosi i doiledau flocio.

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Dŵr Cymru ac asiantaethau eraill i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran defnyddiau traul er mwyn lleihau rhwystrau yn y system garthffosiaeth.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibiliadau o ddefnyddio trethi newydd i leihau’r defnydd o ddefnyddiau traul.

 

</AI10>

<AI11>

9       Cyfnod pleidleisio (Busnes y Cynulliad)

 

</AI11>

<AI12>

10    Dadl Fer

(30 munud)

NDM6897 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)

Cyfraith Lucy: yr ymgyrch i wella lles anifeiliaid drwy wahardd gwerthu a bridio cŵn bach a chathod bach gan siopau anifeiliaid anwes a'r holl werthwyr trydydd parti masnachol.

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 8 Ionawr 2019

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>